Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Ein nod yw darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer uchafswm o 8 bachgen a merch 0-12 oed ar unrhyw un adeg, yn unol â’r ‘Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed’. Byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu profiadau a chyfleoedd chwarae addysgol sy’n briodol i oedran a chyfnod drwy amrywiaeth o weithgareddau wedi’u cynllunio a’u hysgogi gan y plentyn bob dydd, yn unol â chwricwlwm newydd Cymru.