Gwasanaethau cofrestredig


Mae rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu rhestru o fewn Dewis Cymru yn cael eu galw’n wasanaethau ‘rheoleiddiedig’. Mae rhai o rain angen bod wedi ‘cofrestru’ ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Nod y gofyniad yma yw sicrhau bod gwasanaethau o’r fath yn darparu gwasanaeth ansawdd da a diogel i’r bobl sy’n eu defnyddio.

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys gwasanaethau gofal cymunedol gwasanaethau preswyl i blant ac oedolion.

O dan y gyfraith, mae’n rhaid i wasanaethau cofrestredig fodloni rhai safonau sylfaenol a bennir yn Neddf Safonau Gofal 2000 a Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, er enghraifft. Mae safonau penodol ar waith hefyd ar gyfer gwasanaethau fel gofal cartref a chartrefi gofal.

Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy’n eu harolygu’n rheolaidd hefyd

Mae’r mwyafrif o adroddiadau arolygu ar gael i’w darllen (mae rhai arolygiadau o wasanaethau plant nad ydynt ar gael yn gyhoeddus).

Os bydd gwasanaeth cofrestredig yn methu â bodloni neu ragori ar y safonau gofal gofynnol, mae gan AGC y pŵer i gymryd camau gorfodi, e.e. mynnu bod safonau’n gwella ar unwaith, cau’r gwasanaeth neu erlyn y sefydliad (neu’r rheolwr).

Mae gwasanaethau cofrestredig yn cael eu hamlygu o fewn Cyfeiriadur Gwasanaethau Dewis. Bydd hyn yn galluogi pobl i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth drwy ddilyn y ddolen â gwefan AGC.

Sut i gwyno am wasanaeth cofrestredig

Os dymunwch gwyno am wasanaeth cofrestredig cysylltwch ag AGC:

Ffôn: 0300 7900 126
E-bost: ciw@gov.wales
Neu ysgrifennwch i: Swyddfa Genedlaethol AGC, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, CF481UZ

Sut i godi pryderon fel aelod o staff neu 'chwythwr chwiban'

Ewch i wefan AGC i weld pa gamau dylech chi eu cymryd os oes gennych chi bryderon am wasanaeth gofal cofrestredig.