Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Gwybodaeth Gofal Plant.Cymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Gwybodaeth Gofal Plant.Cymru.

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Data Cymru ar ran yr holl Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yng Nghymru. Dymunwn i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Hefyd rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet (Saesneg yn unig)  gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch mae'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:

  • ni allwch addasu uchder llinell na gofodau testun
  • ni allwch ddefnyddio rhyngweithrededd llawn y mapiau Google sy’n cael eu darparu wrth ddefnyddio bysellfwrdd.

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn pum diwrnod gwaith.

Adrodd problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Gweithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anfodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (Saesneg yn unig)..

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Data Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (Saesneg yn unig) safon AA. Mae’r diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau yn cael eu rhestru isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Methiant i gydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Wrth ddefnyddio mapiau rhyngweithiol Google mae rôl-aria-ar-goll yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2.b.

Wrth ddefnyddio mapiau rhyngweithiol Google mae dangosydd-ffocws-ar-goll yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.7.a.

Wrth ddefnyddio mapiau rhyngweithiol Google mae priodwedd ARIA nad yw’n cael ei ganiatáu sy’n methu maen prawf llwyddiant 4.1.2.

Wrth ddefnyddio mapiau rhyngweithiol Google mae maen prawf llwyddiant 4.1.2 yn methu (disgrifiadrôl-aria yn bresennol ar elfennau sydd â rôl semantig).

Wrth ddefnyddio mapiau rhyngweithiol Google mewn porth golwg bach mae’n bosibl bod y map yn gorgyffwrdd ag elfennau testun wrth ei ymyl gan fethu maen prawf llwyddiant 1.4.3 (rhaid bod gan elfennau testun ddigon o gyferbyniad lliw yn erbyn y cefndir).

Nid yw’n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb fod rhywfaint o’r cynnwys yn gorgyffwrdd ar dudalennau sy’n cynnwys map Google.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn yn fewnol ar 11/01/24. Cafodd ei adolygu diwethaf ar 11/01/24.

Cafodd y wefan ei phrofi diwethaf yn Ionawr 2024. Cafodd y sganiau awtomeiddiedig ar bob sgrin y wefan a phrofion rhyngweithiol unigol dan arweiniad, am bob bysellfwrdd,delwedd a strwythur yn erbyn WCAG 2.1 AA eu cynnal gan Data Cymru gan ddefnyddio Axe-core 4.8.2. (Saesneg yn unig).