Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Sefydlwyd Cylch Meithrin Casmael yn mis Mawrth 1975, ac mae wedi parhau yn llwyddianus yn Neuadd Ysgol Casmael ers hynny. Mae gan y Cylch berthynas dda iawn gyda'r ysgol sy'n galluogu bod y trawsnewidiad or Cylch ir Ysgol yn haws ir plentyn.
Cyflwynir gweithgareddau ir plant 2 oed a throsodd, sy'n hyrwyddo'r Cyfnod Sylfaen 3 - 7 oed, er mwyn sicrhau ei bod yn cael cychwyn gorau posib ymhob agwedd ou haddysg. Mae'r staff cymmwys a phrofiadol yn gyfrifol am sicrhau bod pob plentyn yn derbyn gofal a sylw tyner a phriodol.