Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Rhianta Caerdydd ar agor i unrhyw deulu sydd â phlentyn neu berson ifanc rhwng 0 a 18 oed sy’n byw yng Nghaerdydd. Gallech fod yn rhiant, yn llys-riant, yn ofalwr neu’n aelod o’r teulu sy’n gofalu am blentyn. Rhaid bod yr oedolyn neu’r plentyn fod yn byw yng Nghaerdydd. Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu'n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Bydd 5 sesiwn 2 awr. Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn.
Byddwch yn cael llyfryn a deunyddiau eraill i gefnogi eich dysgu dros y pum wythnos.
Os ydych yn dod i grŵp wyneb yn wyneb, rydym yn darparu crèche a redir gan staff cymwys (nid oes cost am hyn).
Mae Plant Bach GroBrain ar gael gan ymarferwyr hyfforddedig o Wasanaethau Rhianta Caerdydd sy'n ystyried mai chi yw’r arbenigwr ar eich plentyn eich hun a bwriedir i'r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.