Porth Lles Wrecsam - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Porth Lles Wrecsam yma i gefnogi plant, pobl ifanc, rhieni/gofalwyr ac unrhyw un sy’n gweithio gyda nhw drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Gall y Porth Lles eich helpu gydag unrhyw beth i’w wneud gyda bywyd teuluol, o bethau i’w gwneud yn y gwyliau gyda’r plant, seibiant i blant gydag anableddau, helpu gyda budd-daliadau a dyledion, lles meddyliol neu ymddygiad plant, mae’r cyfan i’w gael yn y Porth Lles.

Mae’r Porth Lles yn rhoi mynediad i ystod o wasanaethau atal a chymorth cynnar gan nifer o sefydliadau sydd i’w cael yn yr un lle. Dim ond unwaith y bydd angen i chi adrodd eich stori.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Y lle i fynd i unrhyw un sy’n chwilio am wybodaeth neu gefnogaeth i blant a theuluoedd.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gallwch un ai roi’r cais i mewn eich hun neu ffonio 01978 292094 a gallwch gwblhau eich cais dros y ffôn.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Os oes arnoch chi angen cefnogaeth i lenwi’r ffurflen gais ar-lein, ffoniwch 01978 292094.
Dydd Llun - Dydd Gwener: 9:00 - 17:00