Triple P – Rhaglen Rhianta Cadarnhaol - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Triple P – Rhaglen Rhianta Cadarnhaol (grŵp ar gyfer rhieni pobl ifanc yn eu harddegau).

Mae rhieni'n mynychu sesiynau 2 awr wythnosol, ynghyd â phythefnos o gymorth drwy alwadau ffôn
Mae Triple P wedi'i gynllunio i:
• Paratoi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau wrth ymdrin â phwysau gan gyfoedion ac adeiladu dyfodol cadarnhaol
• Cynyddu hyder rhieni wrth bennu ffiniau
• Gwella cyfathrebu rhwng rhieni a phobl ifanc

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae Triple P yn gwrs 7 wythnos i unrhyw deulu sy'n byw yng Nghaerdydd gyda phobl ifanc rhwng 12 ac 16 oed. Mae’r arddegau yn amser heriol i bobl ifanc a rhieni. Mae’r Rhaglen Triple P wedi profi ei bod yn gallu cefnogi rhieni a phobl ifanc trwy’r cyfnod hwn o newid. Gallwn weithio gyda chi yn y gymuned neu o bell, mewn lleoliad grŵp neu 1:1.

Mae Rhianta Caerdydd ar agor i unrhyw deulu sydd â phlentyn neu berson ifanc rhwng 0 a 18 oed sy’n byw yng Nghaerdydd. Gallech fod yn rhiant, yn llys-riant, yn ofalwr neu’n aelod o’r teulu sy’n gofalu am blentyn. Rhaid bod yr oedolyn neu’r plentyn fod yn byw yng Nghaerdydd.

Rydym yn darparu cyfleusterau crèche wedi'u hariannu ar y safle. Rhowch wybod i ni am eich gofynion ymlaen llaw. Cymraeg ac ieithoedd cymunedol eraill ar gael ar gais

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. We can support parents of children with disabilities to access the course.

    Please contact us if you require extra support so we can discuss your needs with you.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Monday to Thursday 8.30am to 5.00pm
Friday 8.30am to 4.30pm