Dawns i Bawb - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Dawns i Bawb yn sefydliad dawns yn y gymuned i Ogledd-Orllewin Cymru ac yn datblygu darpariaeth dawns dros Wynedd, Conwy ac Ynys Môn. Rydym yn cydweithio a chreu gyda phobl a chymunedau, ymarferwyr dawns amatur a proffesiynol, coreograffwyr a chwmniau.
Rydym yn credu bod pawb yn gallu dawnsio ac yn parhau i ddadlau'r manteision o ddawns i'n cymunedau o fewn y cyd-destyn twf personol, iechyd a lles cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol a chymunedol a hunaniaeth ddiwylliannol.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Cynnal rhaglen ddawns o safon uchel a dwyieithog i gymunedau Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Gweithio gyda gwahanol grwpiau o bobl: rhieni a phlant bach, unigolion gydag anghenion arbennig, yr henoed, pobl ifanc mewn amgylchedd creadigol lle mae pob un yn gallu cymryd rhan, cyfranogi, mwynhau a datblygu sgiliau dawns.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes - Cost:- £37 yr awr a 0.45c y filltir o gostau teithio

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Dwyieithog

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae pob sesiwn yn addas i bob gallu
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Uned 2 Galeri
Doc Victoria
Caernarfon
LL55 1SQ



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Llun-Gwener 9am-5pm