Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Cafodd y sefydliad ei sefydlu i helpu pobl ifanc eraill sy'n dioddef o bryder, iselder ysbryd a gor-deimladau o anobaith. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth ym maes iechyd meddwl ac wrth wneud hynny lleihau'r stigma, ac annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl.
Hoffem sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod â phwy i siarad am eu pryderon, a allai eu hatal rhag teimlo mai hunanladdiad yw eu hunig opsiwn.