Aros a Chwarae - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Aros a Chwarae yn gyfle i rieni/ gofalwyr ddod at ei gilydd a threulio amseryn chwarae gyda’ch plant. Gall fod yn hyfryd chwarae gyda’ch gilydd yn eich cartref eich hun, a gall Aros a Chwarae
ychwanegu at hynny drwy gynnig lle i chi ddod at eich gilydd lle nad oes rhaid i chi boeni am dacluso wedyn. Gall rhieni
fwynhau chwarae hefyd!
Mae chwarae yn caniatáu i blant ddefnyddio eu creadigrwydd wrth
ddatblygu eu dychymyg ac mae’n cefnogi pob maes datblygu; dyma sut bydd plant yn ifanc iawn yn gwneud synnwyr o’r byd
o’u cwmpas. Rhannwch brofiadau eich plant bach drwy fwynhau gweithgareddau o safon gyda nhw sy’n annog archwilio
drwy’r synhwyrau.
Mae Aros a Chwarae’n digwydd mewn lleoliadau yn y gymuned leol, lle bydd ein tîm yn paratoi cyfleoedd chwarae cyffrous i chi eu mwynhau gyda’ch plentyn.
Gall roi cyfle i chi gwrdd â’n tîm, cael y wybodaeth ddiweddaraf am negeseuon cymunedol pwysig a’ch helpu i ddefnyddio gwasanaethau teuluol eraill.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

I rieni/gofalwyr a’r plentyn i’w fynychu gyda’i gilydd
Mae Aros a Chwarae ar gyfer plant dan 4 ond rydyn ni’n deall y gall y
syniad o ddod â babi bach draw pan fo plant bach a phlant yn archwilio
godi braw, felly rydyn ni hefyd yn cynnig sesiwn Aros a Chwarae i Fabanod ar gyfer babanod nad ydynt yn cerdded eto ac Amser Stori a Rhigwm.
Mae Aros a Chwarae yn para 2 awr ac mae croeso i chi ddod draw ar
unrhyw adeg, er y byddem yn argymell dod am gymaint ag y gallwch i
gael y gorau o’r sesiwn!

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Anyone in the community can use this resource

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. All inclusive service provided.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Monday to Friday 8am to 4pm