Yst8-i-16 - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Nod y cynllun yw cynyddu cyfranogiad hir dymor mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon drwy godi ymwybyddiaeth o fanteision ymarfer corff a ffordd iach o fyw ymysg pobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae’r cynllun yn ceisio gwneud ymarfer corff yn fwy hygyrch a fforddiadwy i unigolion ac mae'n agored i bobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed sydd ag anawsterau meddygol 'risg isel', neu anawsterau emosiynol neu iechyd meddwl. Nod y cynllun yw darparu cyfle i unrhyw berson ifanc sy’n cwympo i’r categori hwn gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon os credir y bydd gweithgarwch corfforol yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywyd.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r cynllun ar agor i bobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed sydd ag un o’r cyflyrau meddygol ‘risg isel’ canlynol a’u hanawsterau emosiynol ‘risg isel’:
Diabetes (wedi’i reoli)
Asthma
Gordewdra
Anhwylderau Bwyta
Anhwylder Obsesiynol Cymhellol
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio A Gorfywiogrwydd (ADHD)
Iselder
Hunan-barch isel
Anhwylderau Gorbryder
Cyflyrau penodol sy’n effeithio Datblygiad Sgiliau Motor

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae Partneriaid Atgyfeirio yn gweithio gyda’r person ifanc a’u rhiant / gwarcheidwad i gwblhau ‘ffurflen atgyfeirio’ yn manylu ar hanes meddygol, manylion personol a rheswm bras dros yr argymhelliad. Mae’r manylion yma wedyn yn cael eu hanfon ymlaen at y Cydlynydd Yst8-i-16 a fydd yn trefnu’r camau perthnasol er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn cael ei cyflwyno i Weithgareddau Corfforol a Chwaraeon sydd ar Amserlen Yst8-i-16.

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Dwyieithog

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes