Ystafell Synhwyraidd Y Ganolfan Plant Integredig - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Canolfan Plant Integredig Pentrebach yn gartref i Ystafell Synhwyraidd o’r radd flaenaf. Mae’n llawn offer cyffrous a gweithgareddau chwarae addas i blant o bob oed a’r rheini ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’r ystafell yn cynnwys tiwbiau swigod, chwarae meddal, paneli wal ryngweithiol a llawer mwy!

Mae’r cyfleuster hwn ar agor i’r cyhoedd, lleoliadau Gofal Plant a grwpiau hefyd. Nid oes raid talu i archebu lle na’i ddefnyddio. Ffoniwch 01685 727374 am wybodaeth bellach neu i wneud archeb arall.
Lleoliad: Canolfan Plant Integredig, Heol Dyffryn, Pentrebach, Merthyr Tudful, CF48 4BJ

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r ystafell yn gartref wythnosol i grwpiau Bwydo o’r Fron a Thylino Babi, yn ogystal â preifat i aelodau o’r cyhoedd; boed yn grŵp o famau newydd sydd am ddod at ei gilydd am amgylchedd diogel ac ysgogol i’r rhai bach allu cropian o gwmpas a dysgu; neu blant hŷn i ddatblygu eu sgiliau echddygol drwy chwarae; neu brofiad aml-synhwyraidd i’r rheini ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (Plant ac oedolion fel ei gilydd), gall ein Hystafell Synhwyraidd roi lle i bron unrhyw un. Mae yno ddigon o le i gadeiriau olwyn a lle diogel i goets babi. Mae ein staff cyfeillgar ar y safle ar bob adeg i helpu i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae’r cyfleuster hwn ar agor i’r cyhoedd, lleoliadau Gofal Plant a grwpiau hefyd. Nid oes raid talu i archebu lle na’i ddefnyddio. Ffoniwch 01685 727374 am wybodaeth bellach neu i wneud archeb arall.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Duffryn Road
Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4BJ



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen glyw
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Dydd Llun - Dydd Mawr 8:30 - 17:00