Cynnig Gofal Cymru - Conwy - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Oes gennych chi blant tair neu bedair oed? Ydych chi’n gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant? Ydych chi angen cymorth gyda chostau gofal plant? O dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallwch hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn - gwiriwch y meini prawf cymhwyso isod.

Yn ystod y tymor mae’r cyllid yn cynnwys o leiaf 10 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar a hyd at 20 awr o ofal plant. Yn ystod y gwyliau gallwch dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant am hyd at 9 wythnos. (Mae nifer yr wythnosau o ofal plant yn ystod y gwyliau yn dibynnu ar ba dymor y mae eich plentyn yn dechrau’r cynnig).

Os ydych chi’n gymwys, bydd y cyllid yn dechrau o’r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed ac yn parhau tan ddiwedd Awst ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn bedair oed pan fydd ar fin dechrau ysgol yn llawn amser.

I ganfod mwy ac i wneud cais, ewch i: www.conwy.gov.uk/cynniggofalplant

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rhieni cymwys sy’n gweithio a myfyrwyr sy’n rhieni i blant tair a phedair oed.

I fod yn gymwys am y Cynnig, mae’n rhaid i bob rhiant:

Fyw yng Nghymru.
Bod â phlentyn tair neu bedair oed.
Ennill llai na £100,000 y flwyddyn.
Cael eu cyflogi ac yn ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw.
Neu eu bod wedi cofrestru naill ai ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae’r Cynnig Gofal Plant ar agor i rieni sy’n gweithio / myfyrwyr sy’n rhieni i blant tair a phedair oed.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae’r Cynnig Gofal Plant yn galluogi rhieni y mae eu plant ag anghenion cymorth ychwanegol i gael mynediad at ofal plant. Mae hyn yn cynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac anghenion iechyd.
    Os oes gan eich plentyn anghenion cymorth ychwanegol, gwnewch gais fel arfer ac arhoswch am benderfyniad.
    Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo, cysylltwch â ni ar - https://www.llyw.cym
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad