Ymddiriedolaeth GofalwyrGogledd Cymru - Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Gwasanaeth Gofal Croesffyrdd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yw'r corff mwyaf blaenllaw sy'n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol i ofalwyr di-dâl a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt drwy Ogledd Cymru gyfan. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn bartner rhwydwaith i'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr sy'n fudiad cenedlaethol o elusennau lleol.
Mae gennym fwy na 35 mlynedd o brofiad o ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i ofalwyr ym Môn, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam. Ein nod yw gwella bywydau gofalwyr drwy roi seibiant iddynt o'r gwaith gofalu a gadael iddynt gael amser iddynt eu hunain gan wybod bod y sawl maen nhw'n gofalu amdanynt mewn dwylo diogel.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru eisiau i bob gofalwr di-dâl gael eu cydnabod a'u cefnogi ac mae eisiau cynnig gwasanaethau iddynt i'w helpu i ddiogelu eu hiechyd a'u lles eu hunain.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer teuluoedd a gofalwyr

Bydd pob defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn gwasanaeth dwyieithog unigryw yn y cartref neu'r gymuned, o ddarparu cwmnïaeth achlysurol i roi gofal personol lefel uchel.

Mae ein staff i gyd yn gymwysedig ac wedi'u hyfforddi i lefel uchel ac maent oll wedi cael gwiriad datgeliad manylach DBS diweddar.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Mae hyn yn dibynnu ar y math o ofal sydd ei angen

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Rydym wedi ein cofrestru gydag AGGCC i roi gwasanaethau i blant. Gallwn ddarparu:
    Gwasanaethau cefnogi 1-1
    Sesiynau grŵp yn cynnwys grwpiau gwyliau/ar ôl ysgol
    Tasgau arbenigol, h.y. peg-borthi a gofal personol
    Cymorth ymarferol ac emosiynol

    GOFAL SEIBIANT, Gallwn ddarparu:
    Gofal Personol
    Meddyginiaeth
    Cymorth gyda Siopa
    Cymorth gyda Gwaith Tŷ
    Casglu a Dod â Phresgripsiw
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad