Teuluoedd yn Gyntaf - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i fod yn iach a hybu eu lles, a galluogi teuluoedd i fod yn hyderus, cefnogol a chryf a chynnal perthnasau iach. Mae’r rhaglen yn cynnwys:

Canolfannau Teuluoedd Conwy: Mae gennym ni bump Tîm Cefnogi Teuluoedd lleol yng Nghonwy. Mae rhai o’r rhain yn gweithio yn rhai o’r Canolfannau Teuluoedd. Rydym ni’n darparu cefnogaeth i deuluoedd drwy:
 Gynnig gwybodaeth a chyngor
 Grwpiau sydd ar agor i unrhyw un
 Grwpiau a chyrsiau wedi’u targedu (er enghraifft, cyrsiau rhianta)
 Cefnogaeth un-i-un gan Weithiwr Teulu
 Mynediad at gefnogaeth arbenigol arall

• Comisiynu: Canfod anghenion lleol a chydweithio â phartneriaid i fynd i’r afael â’r anghenion hyn.

• Prosiectau: Ariennir nifer o wasanaethau dan y rhaglen i ddarparu cymorth i deuluoedd diamddiffyn ar draws Gonwy.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae Teuluoedd yn Gyntaf Conwy yn cefnogi teuluoedd, plant a phobl ifanc hyd at 25 oed sy’n byw yng Nghonwy.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gallwch gysylltu â ni trwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

9.00am - 5.00pm