Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae gan Wrecsam Dîm Rhianta sy’n cefnogi rhieni plant rhwng 0-18 oed. Caiff cefnogaeth ei chynnig drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys cefnogaeth 1:1, cefnogaeth grŵp a gweithdai sy’n helpu rhieni i ddeall ymddygiad eu plentyn. Mae’r Tîm Rhianta hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau eraill i ddarparu gweithdai ar y cyd neu i'w helpu i ddatblygu darpariaeth ar gyfer y rhieni maent yn eu cefnogi.
Nid yw pob rhiant eisiau mynychu grŵp neu weithdy strwythuredig a byddai'n well ganddynt gefnogaeth 1:1 a gaiff ei darparu naill ai yng nghartref y teulu neu mewn lle arall y mae’r rhieni yn gyfforddus ynddo. Rydym hefyd yn cynnig y gwaith dros y ffôn a thros y we, fodd bynnag, byddem yn argymell gwaith wyneb i wyneb.