Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam - Sesiwn Galw Heibio - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam - Sesiwn Galw Heibio
Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad mewn perthynas â gofal plant a chostau gofal plant; gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant i Gymru, pethau i’w gwneud; iechyd plant; diogelwch plant; bwlio; ymddygiad; magu plant; a llawer mwy.

Mae cyngor a chymorth cyfeillgar ar gael i helpu:
- rhieni i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, gan gynnwys rhieni plant anabl a phlant ag anghenion arbennig;
- rhieni i wella eu hyder a’u gwytnwch

Rydym yn wasanaeth â Sicrwydd Ansawdd ac wedi ennill Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn 2021.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Gall rhieni a gofalwyr o feichiogrwydd hyd at ben-blwydd y plentyn yn 20 oed a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gael mynediad at Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Arwyddbost
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Adeiladau'r Goron
31 Stryt Gaer
Wrecsam
LL13 8BG



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Dydd Llun - Dydd Gwener, 9:30 - 12:30