Beth rydym ni'n ei wneud
Mae Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd (TAC) yn ffordd o drefnu a chydlynu cymorth ychwanegol i blant a phobl ifanc (rhwng 0-25 oed) a’u teuluoedd. Mae’r broses ar gael i bobl sydd ag amryw o anghenion ac sydd eisiau cymorth ataliol.
Gall unrhyw un sy'n gweithio gyda phlentyn, person ifanc neu deulu gychwyn y broses (e.e. athro, gweithiwr cymdeithasol addysg, nyrs ysgol, gweithiwr ieuenctid, cwnselydd neu aelod o’r tîm iechyd meddwl cymunedol neu’r Uned Hawliau Lles). Gall person ifanc neu riant hefyd ofyn am gael dechrau proses TAC drwy gysylltu â’r tîm Cymorth yn uniongyrchol.
Amserau agor
DDydd Llun - Dydd Gwener,
09:00 - 17:00