Cymorth i Deuluoedd yng Nghonwy - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Gall bod yn rhan o deulu fod yn beth hyfryd, ond gall hefyd fod yn heriol. Mae pawb angen rhywfaint o gymorth weithiau. Mae angen i lawer o bobl weithredol gefnogi ei gilydd i helpu plant i ddatblygu'n oedolion iach.
Mae gennym bum Tîm Cymorth i Deuluoedd yng Nghonwy, sydd ar gael i helpu gyda phob agwedd o fywyd teuluol. Mae ambell un ohonynt yn gweithio yn rhai o’r Canolfannau Teuluoedd. Rydym yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd drwy:
• Fynediad at wybodaeth a chyngor
• Grwpiau i’w mynychu (ar-lein neu mewn person)
• Grwpiau wedi’i targedu a chyrsiau (er enghraifft cyrsiau rhianta)
• Cefnogaeth gan Weithiwr Teulu yn benodol ar eich cyfer chi a’ch teulu
• Mynediad at gefnogaeth arbenigol arall

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae ein pum tîm wedi eu lleoli mewn cymunedau ar draws Conwy, ac maent yno i gefnogi unrhyw deulu gyda phlant o unrhyw oedran.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall bob teulu ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Gallwch ddod o hyd i’ch Tîm Cymorth i Deuluoedd lleol trwy edrych ar y wefan hon www.conwy.gov.uk/bywydteuluol neu ffoniwch 01492 574140

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





 Hygyrchedd yr adeilad