Y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, ysgolion ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol i hyrwyddo safonau uchel o bresenoldeb, ymgysylltiad a chyrhaeddiad mewn addysg.
Mae’r gwasanaeth yn helpu ysgolion a lleoliadau i wella eu gallu i ddiwallu anghenion disgyblion o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial i ddysgu er mwyn sicrhau canlyniadau da, gan fod yn ystyriol hefyd o’u hanghenion diwylliannol.

Mae dadansoddi data presenoldeb yn llunio sylfaen ar gyfer system agored a theg o gymorth i ddisgyblion ac ysgolion yn Wrecsam, er mwyn gwella cyrhaeddiad.

Mae’r Gwasanaeth hefyd yn darparu cyngor a hyfforddiant arbenigol, gwybodus a chyfredol.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Plant a Phobl Ifanc Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’u teuluoedd.

Efo pwy rydym ni’n gweithio?

• Plant a Phobl Ifanc
• Rhieni a Gofalwyr
• Staff mewn lleoliadau addysgol
• Staff o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant a Gwasanaethau Addysg eraill
• Staff o adrannau eraill yr ALl fel Cludiant
• Staff o asiantaethau cymorth eraill gan gynnwys iechyd
• Staff o asiantaethau’r trydydd sector

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae gan y gwasanaeth feini prawf o ran cymorth addysgol ond nid oes atgyfeiriad ffurfiol. Os yw teulu’n cysylltu â’r gwasanaeth, neu’n cael eu hatgyfeirio’n anffurfiol gan asiantaeth, byddwn yn ceisio ymgysylltu a chefnogi’r teulu i dderbyn addysg.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Ruthin Road
Bryn Offa
LL13 7UB



 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun - ddydd Gwener 8.45am - 5pm (yn dibynnu ar oriau gweithio’n hyblyg ar adegau)