Beth rydym ni'n ei wneud
Bwriad y Gwasanaeth yw rhoi cymorth i bobl ifainc 11-25 oed i gyflawni eu potensial ac i oresgyn rhwystrau dysgu a dilyniant. Prif ddyletswyddau'r Gwasanaeth yw:
• Gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y gymuned i sicrhau bod yna gynnig cynhwysfawr i bobl ifainc, sy'n cynnwys gweithgareddau cadarnhaol, gwaith ieuenctid mynediad agored, cymorth a gwybodaeth wedi'i dargedu at bobl ifainc, cyngor ac arweiniad i bobl ifainc ar lefel leol.
• Darparu gweithgareddau a chymorth 1-1 er mwyn i bobl ifanc gymryd rhan ym mhob agwedd dysgu.
• Darparu cymorth wedi'i dargedu sydd wedi'i lywio gan ddata proffilio pobl ifanc diamddiffyn rhwng 11-25 oed sydd mewn perygl o ymddieithrio.
• Atal pobl ifainc rhag bod yn rhai sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a bod yn gefn i'r rheiny sydd yn y sefyllfa hynny.
• Cyfrannu at yr agenda ymyrraeth gynnar drwy leihau nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau statudol.
• Sicrhau bod gan bobl ifainc yr un cyfle i fanteisio ar eu hawliau.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Pobl ifanc oed 11-25 yn RhCT
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mynediad agored ac atgyfeirio - Ysgolion ar gyfer atgyfeiriadau presenoldeb ac ar gyfer atgyfeiriadau generig
Amserau agor
Gweithgareddau Amser Cinio - sesiynau gweithgarwch corfforol yn cael eu darparu 2 waith yr wythnos mewn ysgolion uwchradd RhCT.
Gweithgareddau Cadarnhaol -Mae hyn yn digwydd ar ôl ysgol rhwng 3.00pm – 5.00pm. Caiff y ddarpariaeth ei ddarparu o bob safle ysgol uwchradd RhCT.
Darpariaeth estynedig - Mae'r ddarpariaeth yma yn cael ei gynnal rhwng 5.00pm – 8.00pm dwywaith yr wythnos o safleoedd ysgol uwchradd RhCT.
Mae amserlen lawn gweithgareddau'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ar gael yma: http://www.wicid.tv/whats-on/