Beth rydym ni'n ei wneud
Ydych chi’n ystyried sefydlu busnes gofal plant? Ydych chi angen cymorth â’ch busnes gofal plant presennol? Mae gwasanaethau Cymorth Busnes Gofal Plant ar gael i ddarparwyr gofal plant newydd a phresennol – rydym ni’n gweithio gydag ysgolion, cylchoedd chwarae, meithrinfeydd dydd, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau, cylchoedd meithrin, crèches a gwarchodwyr plant. Rydym ni’n bwriadu helpu i gynnal darpariaeth bresennol a gwella ansawdd y gofal plant a ddarperir. Ymhlith y gwasanaethau mae: - helpu gyda pholisïau a gweithdrefnau, ceisiadau Arolygiaeth Gofal Cymru, marchnata, recriwtio staff, cynhyrchu incwm a cheisiadau arian grant. Cysylltwch â ni: childcarebusinesssupport@caerdydd.gov.uk neu drwy gysylltu â Swyddog Cymorth Busnes Gofal Plant yn uniongyrchol:
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Gall pobl o unrhyw oedran ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall unrhyw un gael gafael ar y gwasanaeth. Ni cheir gweithdrefn gyfeirio
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
The Conference Centre
Cardiff
CF24 5RR
Amserau agor
08:30am - 4:30pm ddydd Llun i ddydd Gwener