Beth rydym ni'n ei wneud
Mae Tîm Datblygu Chwarae CBSW yn weithwyr chwarae profiadol, yn ymroi i alluogi’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod holl blant Wrecsam yn cael mynediad at ddigon o amser, gofod a chaniatâd i chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd.
Mae gan bob plentyn yn Wrecsam yr hawl i chwarae, fodd bynnag, rydym yn cydnabod effeithiau andwyol rhai cynlluniau a chanfyddiad oedolion yn gallu ei gael ar ryddid ac annibyniaeth y mae plant eu hangen i chwarae a chyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol i fynd i’r afael â hyn.
Mae’r Tîm Datblygu Chwarae yn gweithio gydag adrannau’r Awdurdod Lleol ac asiantaethau partner, yn annog unigolion i gydnabod eu heffaith ar chwarae plant; yn eirioli bod angen ystyried chwarae wrth gynllunio’r gwasanaethau lleol; gwella datblygiad a darpariaeth prosiectau chwarae, a darparu cyngor ymarferol parhaus i deuluoedd, cymunedau a gweithwyr proffesiynol i gefnogi hawl plant i chwarae.