Tîm Cryfhau Teuluoedd - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r Tîm Cryfhau Teuluoedd yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol a Gweithwyr Teulu Therapiwtig sy’n cefnogi teuluoedd sy’n cyrraedd y trothwy ar gyfer gofal a chymorth, cynnig yr ymyriadau cymhleth canlynol:
Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS)
Rhaglen ddwys 6 wythnos o hyd wedi’i hanelu at deuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan broblemau camddefnyddio sylweddau ac anawsterau iechyd meddwl.
Gwasanaeth Cyfryngu i Deuluoedd
Therapi Chwarae
Wedi’i anelu at deuluoedd sy’n cael trafferth cysylltu â’u plant
Rhaglen Newidiadau
Gwaith dwys gyda theuluoedd lle mae gan y rhieni broblemau ymddygiad
Siarad â Mam
Ymyriad i annog rhieni a phlant i siarad am eu profiadau gyda chamdriniaeth ddomestig
Gwaith Stori Bywyd
Darperir yr ymyriad hwn i blant mewn gofal sydd angen gwneud synnwyr o daith eu bywyd
Cymorth Therapiwtig Gofal Maeth-bydd y tîm yn darparu hyn naill ai fel rhan o’r cynllun gofal a chymorth neu fel ymyriad i osgoi’r angen am gynllun gofal a chymorth

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Plant mewn angen a phlant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Daw’r atgyfeiriadau ar gyfer y tîm yn uniongyrchol gan Weithwyr Cymdeithasol y Gwasanaethau Plant. Mae’n rhaid i’r Tîm Dyletswydd ac Asesu sgrinio atgyfeiriadau newydd.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

dydd Llun – dydd Iau 8.45am – 5.15pm
dydd Gwener 8.45am – 4.45pm