Mynegai Plant a Phobl Ifanc ag Anableddau neu Anghenion Ychwanegol (Caerdydd) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Y Mynegai yw cofrestr wirfoddol Caerdydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol. Gan weithio ochr yn ochr ag ystod o wasanaethau cymorth a gweithwyr proffesiynol, mae’n sicrhau bod teuluoedd plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am wybodaeth sy’n berthnasol ac yn fuddiol iddynt. Yn ogystal, mae’n cynorthwyo i gynllunio a chydlynu gwasanaethau sy’n cefnogi’r plant, y bobl ifanc hynny a’u teuluoedd.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Gallwch gofrestru â’r Mynegai os ydych yn:

Rhiant/gofalwr i blentyn neu berson ifanc 0 – 18 oed ag anableddau neu anghenion ychwanegol
Gweithio’n broffesiynol gyda phlant neu bobl ifanc 0 – 18 oed ag anableddau neu anghenion ychwanegol
Er mwyn bod ar y Mynegai, rhaid i blentyn neu berson ifanc fod yn:

0 – 18 oed
Ag anabledd wedi’i ddiagnosio, sydd wrthi’n cael ei ddiagnosio neu sydd ag anghenion ychwanegol parhaus a gadarnhawyd

Ar ôl ymuno â’r Mynegai byddwch yn derbyn e-newyddion y Mynegai – e-byst rheolaidd sy’n darparu gwybodaeth am gwasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall rhieni a gofalwyr gysylltu â ni’n uniongyrchol. Gall gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio â phlant hefyd gysylltu â ni. Mae ffurflen gofrestru ar gael ar ein gwefan.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad