STAND Gogledd Cymru CBC - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Yn rhedeg grwpiau cefnogi rhieni, hyfforddiant i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, cyrsiau, gweithdai, grwpiau ieuenctid ar-lein, Clwb Celf i oedolion, Grwpiau cymdeithasol i oedolion, gweithgareddau i blant, pobl ifanc ac oedolion pan fo cyllid ar gael a mwy.

Mae gennym lawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Am fwy o fanylion e-bostiwch samantha@standnw.org, ffoniwch 07891138649 neu ewch i’r wefan: www.standnw.org

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rydym yn cefnogi teuluoedd gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion ag anghenion lleferydd, iaith, cyfathrebu, anghenion ychwanegol ac anableddau yng Ngogledd Cymru. Rydym yn darparu digwyddiadau, gweithgareddau, hyfforddiant a llawer mwy.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Gan nad ydym ni’n derbyn cyllid craidd rydym ni’n gofyn am flaendal bychan ar gyfer hyfforddiant a chyrsiau. Caiff y swm yma ei ad-dalu ar ôl i chi gwblhau’r hyfforddiant/cwrs.

Pan fydd gennym ni hyfforddiant diwrnod cyfan gyda gweithwyr proffesiynol arbenigol yn eu maes, mae’n rhaid i ni godi tâl ar rieni i fynychu oherwydd cost gyffredinol y diwrnod. Serch hynny, rydym ni’n rhoi cymhorthdal sylweddol ar gyfer y gost i rieni i fynychu. Mae’r gost yn dibynnu ar destun y diwrnod hyfforddi.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall rhieni/gofalwyr sydd â phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, anghenion ychwanegol ac anableddau gysylltu â ni’n uniongyrchol, ond mae’n rhaid iddynt gofrestru â’n sefydliad er mwyn cael gafael ar ein gwasanaethau. Gall gweithwyr proffesiynol hefyd gofrestru rhieni yn unol â’n canllawiau. Gall gweithwyr proffesiynol gofrestru hefyd i gael gwybodaeth yn uniongyrchol i’w e-bost i gefnogi teuluoedd maent yn gweithio gyda nhw.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Grwpiau cefnogi i rieni / gofalwyr. Hyfforddiant. Llyfrgell Fenthyca Synhwyraidd i deuluoedd sy’n byw yn Sir Ddinbych a Chonwy. Grwpiau cymdeithasol i oedolion. Grwpiau ieuenctid. Grwpiau STAND dros newid. Dyddiau a gweithgareddau i deuluoedd. I gyd yn dibynnu ar gyllid.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Parc Busnes Bodelwyddan
Abergele Road
Rhyl, Sir Ddinbych
LL18 5SX



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Oriau agor 9am-5pm o ddydd Llun - ddydd Gwener
Sarah 07749 998708; Yvonne 07826 108273.
Os gwelwch yn dda gadewch neges a byddwn yn cysylltu yn ôl atoch oherwydd efallai y byddwn mewn sesiynau.