Amser Stori - Llyfrgell, Llanilltud Fawr - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin


Beth rydym ni'n ei wneud

Croeso i blant 0 – 4 oed a’u rhieni i ymuno mewn sesiwn hwyliog o stori a chân. Pwrpas grŵpiau Amser Stori yw rhoi cyfle i rieni neu warchodwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda'u plant gan gyflwyno'ch rhai bach i'r Gymraeg mewn modd rhyngweithiol a hwylus.

Mae grŵp Rhieni a Phlant Bach yn cynnig gweithgareddau sy'n helpu datblygiad plant o enedigaeth hyd at oed ysgol. Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch dwyieithog.
Pob ddydd Iau yn ystod tymor ysgol am 1000
Wrth fynd i'r grŵp Rhieni a Phlant Bach bydd eich plentyn yn cael cyfle i:

- fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau bach newydd
- dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd adref

- gwrando ar storïau
- a joio!

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Yn agored i bawb - mae'r sesiynau yn addas hefyd i rieni a phlant di-Gymraeg

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes




 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Ffordd yr Orsaf
Llanilltud Fawr
CF61 1ST



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Pob dydd Iau 10-10.30am