Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Siroedd Conwy a Dinbych - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc ar draws Conwy’n goruchwylio ystod o raglenni ymyrraeth, gyda rhai yn deillio o orchmynion llys y mae pobl ifanc yn ymgysylltu â nhw, yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol / troseddu. Mae'r rhain yn cynnwys:

Rhybuddion Amodol Ieuenctid
Gorchmynion Atgyfeirio
Gorchmynion Adsefydlu Ieuenctid
Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys (ISS)
Gorchmynion Cadw a Hyfforddi (DTO)

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae ystod o ymyriadau adferol yn cael eu cynnig. Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi datblygu prosiect atal sy'n ceisio gweithredu camau ymyrryd gyda phobl ifanc yn gynt, er mwyn atal mynediad i'r system cyfiawnder troseddol.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn rhoi cyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol i sefydlu a chynnal Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI). Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn bartneriaeth aml-asiantaeth sydd â chyfrifoldeb statudol dros ddarparu ymyrraeth, her a chefnogaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd, gyda'r prif nod o atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu ac aildroseddu gan bobl ifanc 10 - 17 oed.
Mae ein dull partneriaeth yn cynnwys staff o nifer o wahanol sefydliadau:

Cyngor Conwy a Sir Ddinbych
Gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru
Gwasanaeth prawf
Gwasanaeth Iechyd
Gyrfa Cymru
Camddefnyddio Sylweddau

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Derbynnir atgyfeiriadau gan: rieni ysgolion swyddogion cymunedol yr heddlu gweithwyr proffesiynol eraill

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Po Box 1
Conwy
LL30 9GN

 Gallwch ymweld â ni yma:

Coed Pella
Conway Road
Colwyn Bay
LL29 7AZ



Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun - Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm.Ar gau Gwyliau Banc