Lleisiau Mamolaeth - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Lleisiau Mamolaeth yn bwyllgor amlbroffesiwn, sy'n dod â merched a'u partneriaid sydd wedi cael babi yn ddiweddar ynghyd, a phobl leol sydd â diddordeb mewn gwella gwasanaethau mamolaeth gyda bydwragedd a meddygon PBC.

Pwrpas Lleisiau Mamolaeth yw cyfrannu at ddatlygiad a darpariaeth gwasanaethau o safon sy’n bodloni anghenion y gymuned drwy sicrhau bod merched a’u teuluoedd wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac rydym bob amser yn chwilio am aelodau newydd.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’n llais defnyddiwr i unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth neu sydd â babi/plentyn a hoffai ddylanwadu ar y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhywun defnyddio'r adnodd yma

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad