Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Canolfan Deuluoedd Gogledd Sir y Fflint Wledig yn gwbl hygyrch ac mae croeso i bawb. Mae mynediad ar gael i gadeiriau olwyn a gallwn gynorthwyo'r rheiny â chyflyrau sy'n effeithio ar eu clyw a/neu eu golwg i gael mynediad hefyd. Rydym yn gyfleuster sy’n croesawu mamau sy’n bwydo ar y fron a gallwn ddarparu ystafell breifat ar eu cyfer. Mae cyfleusterau newid babanod ar gael ar y safle hefyd.