Cylch ( Meithrin a) Ti a Fi Llan Y Pwll - Wrecsam - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin


Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn croesawu pob unigolyn gyda breichiau agored i’n Cylchoedd Ti a Fi gan ein bod yn credu fod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu Cymraeg a dylid rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn wneud hynny.

Mae’r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle ichi a’ch plentyn gwrdd yn rheolaidd gyda rhieni/gwarchodwyr a phlant eraill er mwyn i’r plant gael cyfle i fwynhau chwarae gyda’i gilydd gan roi cyfle ichi gymdeithasu dros baned neu ddisgled o de! Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig. Rydym fel un teulu mawr!

Wrth archebu i fynychu'r Cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i:

fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau bach newydd
chwarae gyda phob math o deganau
dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref
gwrando ar storiau
chwarae gyda thywod a chlai
… a joio!

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Darparu gofal sesiynol i fabis a plant ifanc cyfrwng Cymraeg i fechgyn a merched o 0-4 flwydd oed.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes - £2.00 y teulu /sesiwn

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

unrhywun yn gallu cysylltu gyda ni




 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Borras Park Road
Wrecsam
LL12 7TH



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Gwener 9:15-10.45yb