Addysg Gynnar - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae gan bob plentyn tair blwydd oed hawl i 10 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar wedi’i ariannu o leiaf, bob wythnos yn ystod y tymor. Bydd yr Addysg hon ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yn cael ei ddarparu yn unrhyw leoliad cyn ysgol sy’n rhan o’r cynllun. Bydd Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn dechrau yn ystod y tymor yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn dair oed.
Sicrhewch fod gennych le ar gyfer eich plentyn cyn gwneud cais am y cyllid. Gallwch wneud hyn ar ôl hanner tymor y tymor hwnnw mae eich plentyn yn troi’n dair oed. Am ragor o wybodaeth a’r ffurflen gais gweler y wefan isod
Os cafodd eich plentyn ei eni ar ôl 1 Ebrill, byddant yn derbyn Addysg y Blynyddoedd Cynnar mewn dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn y mis Medi canlynol.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gwefan
http://www.conwy.gov.uk/cyllidiblant3oed
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01492 577850
Ebost: addysgblynyddoeddcynnar@conwy.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Dydd Llun - Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm