Gwasanaeth Cymorth i Blant Anabl Rhondda Cynon Taf - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae'r Gwasanaeth Plant Anabl eisiau cynnig amgylchedd lle mae plentyn sydd ag anabledd yn blentyn yn gyntaf, ac yn cael ei hybu a'i gefnogi i gael yr un gwasanaethau a chyfleoedd â phlant eraill.
Rydyn ni'n bwriadu gweithio mewn partneriaeth â phlant a'u teuluoedd ac asiantaethau eraill i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifainc sy'n anabl.
Mae peth o'r cymorth rydyn ni ac asiantaethau eraill yn gallu ei gynnig yn cynnwys:
• Gwasanaeth asesu sy'n rhoi cyngor a chymorth
• Cynllunio gofal a chymorth
• Darparu Seibiant/gwyliau bach
• Gweithgareddau chwarae a hamdden sy'n hawdd eu cyrraedd
• Cymorth fesul un er mwyn gweithio tuag at adeiladu sgiliau ac integreiddio
• Taliadau uniongyrchol
• Cymorth Therapi Galwedigaethol yn y Gymuned er mwyn lleihau effaith yr anabledd yn y cartref
• Cyngor a chymorth arbenigol i blant o dan 5 oed
• Cyngor a chymorth arbenigol i bobl ifainc sy'n troi'n oedolion
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Plant anabl 0-18 oed
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Am wybodaeth neu gyngor neu i ofyn am asesiad, ffoniwch ein Canolfan Alwadau
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ
Gwefan
http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/ChildrenandFamilies/ChildrenandFamilies.aspx
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01443 425006
Cyfryngau cymdeithasol
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Dydd Llun-Gwener 8.30am-5.00pm