Tîm Iechyd Plant ac Anabledd - Bro Morgannwg - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Rydym yn dîm amlddisgyblaethol arbenigol sy'n credu bod plentyn y mae ganddynt anabledd yn blentyn yn gyntaf, ac y dylid eu hannog a'u helpu i fanteisio ar yr un gwasanaethau a thriniaethau ag y mae plant eraill heb anableddau yn manteisio arnynt.
Yn ogystal, rydym yn cael cyswllt gyda'r Ymwelydd Iechyd Arbenigol a Gweithwyr Cymdeithasol y maent yn gweithio mewn timau eraill ar gyfer plant y mae ganddynt anghenion ychwanegol.
Mae modd i rieni, aelodau teuluol a gweithwyr proffesiynol wneud cyfeiriadau i'r Tîm Iechyd Plant ac Anabledd.
Er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn cael eu rhoi i bobl y maent yn yr angen mwyaf, byddwn yn defnyddio meini prawf cymhwysedd,
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
mae'n gwasanaeth ar gyfer :-
Plant / pobl ifanc rhwng 0 a 18 oed gyda anableddau parhaol a sylweddol sy'n cael effaith gymedrol neu ddifrifol ar eu gweithrediad o ddydd i ddydd oherwydd
* Nam gweledol sylweddol.
* Nam clyw sylweddol.
* Nam cyfathrebu dwys (gan gynnwys anhwylder sbectrwm awtistiaeth).
* Anabledd dysgu difrifol.
* Anabledd corfforol sylweddol
Rydym hefyd yn cefnogi rhieni / gofalwyr plant ag anabledd.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Oes
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Saesneg gyda rhai elfennau dwyieithog
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Swyddfa'r Dociau
Subway Road
Y Barri
CF63 4RT
Gwefan
https://valefamilycompass.co.uk/
Dulliau cysylltu
Ffôn: 0808 281 6727
Cyfryngau cymdeithasol
Hygyrchedd yr adeilad
Toiledau hygyrch
Parcio hygyrch
Lifft
Drysau awtomatig
Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad
Amserau agor
Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am tan 5.00pm a dydd Gwener 8.30am tan 4.30pm