Skip to main content

Blynyddoedd Cynnar - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Gan weithio ochr-yn-ochr ag asiantaethau eraill, mae’r Tîm Ymyrraeth
Gynnar yn rhoi cymorth arbenigol wedi’i deilwra i deuluoedd i wella eu
canlyniadau a’u helpu nhw i gyflawni eu nodau a’u dyheadau. Mae’n
gwneud hwn trwy ymgysylltu cadarnhaol, darganfod rhagor am eich
cryfderau, archwilio eich anghenion a’ch helpu chi i nodi’r pethau sy’n
bwysig i chi. Gall ymyrraeth gynnar fod ar wahanol ffurfiau, o raglenni
ymweld â’r cartref i gynorthwyo rhieni sy’n agored i niwed, i raglennu
mewn ysgolion i wella sgiliau cymdeithasol ac emosiynol plant.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Grwpiau cynenedigol ac ôl-enedigol, bwydo ymatebol, clwb babanod, tylino babanod a diogelwch yn y cartref.
• Negeseuon iaith a mynediad at weithgareddau cartref priodol,
rhaglenni Dewch i Siarad i gefnogi datblygiad iaith, pecynnau Byddwch Yma, Byddwch yn Glir yn ogystal â chymorth fwy arbenigol ar gyfer anhwylderau iaith penodol ym meithrinfa’r ysgol.
• Cymorth i deuluoedd - mae cymorth ymarferol ar gael yn ogystal
â mynediad at raglenni fel Rhieni Fel yr Athrawon Cyntaf, Rhaglen
Datblygu Rhieni a CAMAU at lwyddiant.
• Ymuno a Chwarae, lleoedd â chymorth a chefnogaeth i blant ag anghenion datblygu sy’n dod i’r amlwg i gefnogi datblygiad plant.
• Cymorth sgiliau hanfodol i blant, pobl ifanc ac oedolion i helpu gyda
gweithgareddau dysgu yn y cartref i adeiladu sgiliau llythrennedd, rhifedd
a digidol.
Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar yn dîm amlasiantaeth medrus iawn
sy’n gweithio gyda theuluoedd i adeiladu gwytnwch i gynorthwyo eu
plant i gael y dechrau gorau.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae cyferiad JAFF eu hangen (Joint Assessment Family Framework) Ar gael ar y wefan

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Lleoliad cyfrwng Saesneg gyda rhai elfennau dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
    Rydym ni yn hapus I addasu ein rhaglen I cefnogi plant gyda anabledd  Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?

Gwybodaeth gymdeithasol

Cyfeiriad



Dulliau cysylltu

Ffôn: 01443 863232(Early Years Team/ Family Information Services)

Ebost: FIS@caerphilly.gov.uk(Family Information Service)

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook

Hygyrchedd yr adeilad

Amserau agor

Dydd Llun I Dydd Iau 8:30am-5:00pm
Dydd Gwener 8:30am-4:30pm

Back to top