Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r Rhaglen Magu Plant yn fwyaf addas i rieni plant bach a phlant oedran ysgol a meithrin. Mae 10 sesiwn dwyawr gydag egwyl paned os ydych yn dod i grŵp lleoliad cymunedol.
Rydym yn argymell eich bod yn dod i bob un o’r deg sesiwn gan fod y rhaglen yn ffitio ynghyd fel pos
Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr.
Darperir y rhaglen yn anffurfiol gyda grwp o tua 12 rhiant.
Rydym hefyd yn gallu gweithio gyda chi mewn lleoliad grŵp rhithwir neu un i un.
Mae Rhianta Caerdydd ar agor i unrhyw deulu sydd â phlentyn neu berson ifanc rhwng 0 a 18 oed sy’n byw yng Nghaerdydd. Rhaid bod yr oedolyn neu’r plentyn fod yn byw yng Nghaerdydd.
Rydym yn darparu cyfleusterau crèche wedi'u hariannu ar y safle ar gyfer plant ifanc tra bod rhieni'n mynychu ein grwpiau.