Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Dod â phlentyn i’r byd yw’r rhodd fwyaf gwerthfawr ond gall hefyd fod yn anodd iawn. Os ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg ac mae gennych blentyn 0-4 oed, gallwch elwa o nifer o wasanaethau i’ch helpu chi a’ch teulu. Rydym yma i’ch cefnogi chi er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’ch plentyn.
Mae gan bob plentyn yr hawl i ffynnu a datblygu hyd at eu llawn botensial. Mae Dechrau’n Deg yn darparu gwasanaethau cefnogaeth ddwys i blant oed 0-4 a’u teuluoedd mewn ardaloedd penodol yn Nhorfaen. Mae’r rhaglen yn anelu i gefnogi teuluoedd i wneud gwahaniaeth i’w plant ym mlynyddoedd cynharaf eu bywydau.