Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Meddwl mabwysiadu?Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.

Mae mwy a mwy o blant yng ngofal awdurdodau lleol ac ni allant ddychwelyd at eu rhieni genedigol.Mae angen teulu parhaol, cariadus ar y plant yma, er mwyn iddyn nhw gael sefydlogrwydd a chyfle i ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn bartneriaeth rhwng timau mabwysiadu’r awdurdod lleol yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.Nod y Gwasanaeth yw gwneud y broses fabwysiadu yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy ehangu’r ffynhonnell o fabwysiadwyr ar gyfer y plant yng Ngogledd Cymru

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae rhaid i ddarpar Fabwysiadwyr fod dros 21 oed, ond nid oes terfyn oedran uchaf.

Mae arnom angen mabwysiadwyr sydd a’r egni corfforol a meddyliol i ddarparu gofal ac i gyflawni anghenion ein plant, ac y mae eu ffordd o fyw yn awgrymu y byddent yn dal i fod a’r egni pan fydd y plentyn yn ei harddegau neu yn oedolyn ifanc.

Pwy All Fabwysiadu -
Sengl, priod neu heb briod
Heterogenaidd, lesbiaid, hoyw, deurywiol neu thraws
O unrhyw gefndir ethnig neu grefyddol
Yn berchennog neu yn rhentu tŷ neu fflat
Cyflogedig neu ar fudd-daliadau
Hefo plant neu sydd heb blant
Pobl sy'n meddwl mabwysiadu am yr ail dro

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

hunan-gyfeirio

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Dydd Llun - Dydd Gwener 9am - 5pm