Mudiad Meithrin - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol ac mae'n cael ei gydnabod fel prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol. Ein nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae tua 200 o staff cyflogedig gan y Mudiad yn genedlaethol a thros 1,500 o staff yn gweithio yn y cylchoedd meithrin. Mae Swyddogion Datblygu'r Mudiad yn gweithio’n lleol yn eu siroedd er mwyn cynnig arweiniad a chyngor ymarferol i staff y cylchoedd, gwirfoddolwyr a rhieni.

Gan fod chwarae yn sylfaenol i bob agwedd o ddatblygiad plant, mae’r profiadau a’r gweithgareddau a gynigir ar draws holl ystod ein darpariaethau wedi eu seilio ar ddysgu trwy chwarae. Mae pwyslais arbennig yn cael ei roi ar ddatblygiad iaith, ac ar ddatblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol plant yn ein cylchoedd

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mudiad gwirfoddol sy'n arbenigo ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yw Mudiad Meithrin. Ein nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae ein gwefan ar gael i unrhyw un.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad