Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae teuluoedd sydd â phlant rhwng 0 a 4 oed sy’n byw mewn ardaloedd daearyddol penodol a’r rheiny sy’n gymwys am allgymorth, nad ydynt yn byw yn yr ardaloedd daearyddol penodol, yn gymwys i gael y gwasanaeth Dechrau'n Deg llawn. Yn ogystal, plant sy’n byw mewn codau post penodol sy’n gymwys i gael yr elfen gofal plant ar gyfer plant 2 oed wedi’i ariannu yn unig.