Elfennau Gwyllt - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Elfennau Gwyllt yn fenter gymdeithasol ddielw lleol ac yn gwmni buddiannau cymunedol sy’n ymrwymedig i gael pobl Gogledd Cymru tu allan i’r awyr agored er mwyn eu cysylltu â natur, i wella eu bywydau, cyfleoedd a dyheadau.

Mae Elfennau Gwyllt yn targedu busnesau corfforaethol, plant, oedolion, teuluoedd, ysgolion cynradd ac uwchradd, grwpiau ieuenctid, llyfrgelloedd, cymunedau a grwpiau cymunedol.

Mae ein gwasanaethau a darpariaethau yn cynnwys hyfforddiant achrededig, addysg awyr agored amgen, hyfforddiant DPB (Datblygiad Proffesiynol Parhaus), rhaglenni STEM a chelfyddydau, Ysgol Goedwig, Ysgol Traeth, profiadau cysylltu â natur, diwrnodau hwyl, clybiau gwyliau, clybiau gwyddoniaeth, partïon pen-blwydd coetir i blant ac oedolion, gerddi cymunedol, gerddi synhwyrau, pyllau, gwelliannau bywyd gwyllt a llawer mwy.

Hefyd, mae’r holl wasanaethau a darpariaethau yn hyblyg a gellir eu haddasu ar gyfer gofynion y gynulleidfa

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae gennym hanes llwyddiannus o ddarparu addysg awyr agored amgen, rhaglenni STEM, profiadau cysylltu â natur, diwrnodau hwyl, clybiau gwyliau, prosiectau cyflogadwyedd, a helpu pobl i mewn i gyflogaeth, addysg a gwirfoddoli drwy gynyddu eu sgiliau, cymwysterau, rhagolygon a’u hyder.

Mae ein digwyddiadau a'n gweithgareddau i gyd yn gynhwysol ac mae rhywbeth at ddant pawb!

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau gyda neu heb dâl.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un ddefnyddio Elfennau Gwyllt

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Dwyieithog

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Ffoniwch yn ystod dyddiau'r wythnos (9yb – 5yp), neu e-bostiwch unrhyw ddiwrnod o’r wythnos. Gallwn gynnal prosiectau ar unrhyw ddiwrnod. Noder, cynhelir ein gweithgareddau yn bennaf yn yr awyr agored ac fe wnawn bob ymdrech i gwrdd â’ch anghenion.