Cardiff Flying Start Parenting Group - GroBrain - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

. Yn ystod y cwrs 5 wythnos bydd y cyfranogwyr yn edrych ar bynciau’n cynnwys:
• Sut mae'r ymennydd yn cael ei ysgogi gan brofiadau a pherthnasau cynnar.
• Effaith straen ar ymennydd babi.
• Sut i nodi ciwiau ac arwyddion eich babi ac ymarfer ffyrdd o gysuro babi.
• Sut i reoli emosiynau eich babi.
• Sut i greu perthynas gyda'ch babi.
• Tylino babis.
• Edrych ar sut mae dewisiadau deiet a ffordd o fyw yn ystod beichiogrwydd yn cysylltu â datblygiad ymennydd babi.
Bydd 5 sesiwn 2 awr gyda seibiant ar gyfer lluniaeth ym mhob sesiwn.
• Argymhellir eich bod yn mynychu pob un o’r pum sesiwn er mwyn cael y gorau o'r rhaglen.
• Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn.
• Cyflwynir y rhaglen yn anffurfiol gyda grwp o tua 10 rhiant.
• Mae pob grŵp yn cynnig crèche sy'n cael ei redeg gan staff cymwys a phrofiadol, neu mae croeso i chi fynychu gyda'ch babi.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae GoBrain yn grŵp ar gyfer rhieni sy'n disgwyl neu rieni gyda babi hyd at 12 mis.
Mae GroBrain yn ystyried creu perthnasau, emosiynau a brofir gan rieni a babis, a datblygiad yr ymennydd.
Mae Rhaglen Gro Brain hefyd ar gael ar-lein

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Anyone in the community can use this resource

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. All inclusive service provided
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Monday to Friday 8am to 4pm