Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn gwrs11 wythnos i unrhyw deulu sy’n byw yng Nghaerdydd gyda phlant 7 – 17 oed. Mae’r arddegau yn amser heriol i bobl ifanc a rhieni. Mae’r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd wedi profi ei bod yn gallu cefnogi rhieni a phobl ifanc trwy’r cyfnod hwn o newid.
Mae Rhianta Caerdydd ar agor i unrhyw deulu sydd â phlentyn neu berson ifanc rhwng 0 a 18 oed sy’n byw yng Nghaerdydd. Gallech fod yn rhiant, yn llys-riant, yn ofalwr neu’n aelod o’r teulu sy’n gofalu am blentyn. Rhaid bod yr oedolyn neu’r plentyn yn byw yng Nghaerdydd.
Rydym yn darparu cyfleusterau crèche ar y safle ar gyfer brodyr a chwiorydd iau, tra bod y bobl ifanc a'u rhieni yn mynychu ein grwpiau. Rhowch wybod i ni am eich gofynion ymlaen llaw. Mae Cymraeg ac ieithoedd cymunedol eraill ar gael ar gais