Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych Gofalwyr Ifanc WCD - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae WCD yn sefyll am Wrexham, Conwy a Denbighshire yn Saesneg. Ynganir WCD fel ‘wicked’. Mae Gofalwyr Ifanc WCD yn rhan o Elusen ‘Credu yn cysylltu Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu’.

Yng Ngofalwyr Ifanc WCD, rydym yn cefnogi gofalwyr ifanc 18 mlwydd oed ac iau sy’n cael rôl gofalu ar gyfer aelod o’r teulu ac rydym yn gwrando i ddeall sut mae bywyd iddynt hwy wrth dyfu i fyny gyda chyfrifoldebau ychwanegol. Tra bo rhai’n falch o’r hyn maen nhw’n ei ddysgu o fod yn ofalwr ifanc, mae llawer ohonynt yn dweud wrthym ni eu bod angen ‘seibiant’ felly rydym yn cynnig hyn trwy grwpiau ieuenctid, teithiau ac ymweliadau preswyl. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau statudol a’r trydydd sector i gynnig cyfleoedd a siawnsiau gwell mewn bywyd i Ofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Gofalu ym mhob cwr o’r rhanbarth.

Yn WCD, mae pawb o’r rheolwyr i’n tîm o Weithwyr Allgymorth, staff sesiynol a gwirfoddolwyr yn credu fod cryfderau gan bob gofalwr ifanc a gwerthfawrogir hyn.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau gwirfoddol lleol a chenedlaethol i gadw mewn cysylltiad a rhannu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, ac rydym wedi’n cysylltu gyda’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, sef elusen sy’n cefnogi rhwydwaith o Ganolfannau Cefnogi Gofalwyr lleol eraill.

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau oddi wrth bobl broffesiynol a gall pobl atgyfeirio eu hunain hefyd.
https://www.wcdgi.org.uk/cyflwyno-atgyfeiriadau

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Marlow
South Crescent
Llandrindod Wells
LD1 5DH



Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad