Darparu theatr o'r safon uchaf ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cyffroi, herio ac ysbrydoli'r gynulleidfa a'u hysgogi i edrych ar y byd o'r newydd. Rydym yn anelu at:Greu cynyrchiadau o'r safon uchaf; Cynnig cynyrchiadau sy'n torri tir newydd; Adlewyrchu bywyd a hunaniaeth y Gymru gyfoes; Creu gwaith llawn angerdd sy'n dathlu amrywiaeth diwylliannol cymdeithas; Datblygu ysgrifennu newydd arloesol yn yr iaith Gymraeg; Mentora talentau newydd; Sicrhau cynhwysiant plant a phobl ifanc ym mhob agwedd o waith y Cwmni; Ymgynghori gyda phlant, pobl ifanc ag ymarferwyr proffesiynol ynglyn a darpariaeth a chyfeiriad y Cwmni; Datblygu cyfleon cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc; Hyrwyddo theatr i blant a phobl ifanc; Darparu cynyrchiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg; Cydnabod cyfrwng y theatr fel adnodd addysgol gydol oes; Meithrin gwerthfawrogiad o berfformiadau fel profiad celfyddydol ynghyd a phrofiad addysgol; Meithrin cynulleidfa feirniadol sydd a disgwyliadau uchel o'r theatr.
Nac oes
Iaith: Cymraeg yn unig
Yr Hen Ysgol GynraddFfordd PentraethPORTHAETHWYLL59 5HS
http://www.franwen.com